AIF i lansio rhaglen sgiliau ar gyfer gwyliau Cymru a’u gweithwyr llawrydd
Rhaglen chwe mis a gefnogir gan gyllid Cymru Greadigol.
Bydd Cymdeithas Gwyliau Annibynnol (AIF) yn lansio rhaglen sgiliau a datblygu pwrpasol ar gyfer gwyliau cerddoriaeth Cymru a’u gweithwyr llawrydd cysylltiedig, gyda chymorth ariannol gan Cymru Greadigol.
Dros gyfnod o chwe mis, bydd ‘Rhaglen Sgiliau a Datblygu Gwyliau Cerddoriaeth Cymru a’u Gweithwyr Llawrydd’ yn rhad ac am ddim i wyliau a gynhelir yng Nghymru ac i weithwyr llawrydd Cymru y mae rhywfaint neu eu holl waith yn ymwneud â’r sector gwyliau hwn.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf, ac yn cynnwys dwy sianel ddigidol a fydd yn gweithredu 24/7 ar gyfer rhwydweithio, dysgu a rhannu rhwng gwyliau a gweithwyr llawrydd. Bydd hyd at 40 gŵyl a fydd yn cymryd rhan hefyd yn cael y cyfle i fynychu’r Gyngres Wyliau yn bersonol, lle byddant yn cael mynediad llawn i’r digwyddiad ac i sesiynau wyneb-yn-wyneb pwrpasol a fydd wedi’u teilwra ar gyfer y garfan.
Ar gyfer y gwyliau bydd y sesiynau’n cynnwys pynciau fel gwirfoddoli; cynllunio ariannol a chyllidebu; gwella’r gwariant y pen; addasu i dywydd eithafol; ymarfer gorau o ran hygyrchedd gwyliau; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd ar gyfer timau; artistiaid a chynulleidfaoedd; rheoliadau gwahanu gwastraff a mwy, gan ddibynnu ar anghenion y garfan.
Ar gyfer gweithwyr llawrydd gwyliau, bydd y pynciau’n cynnwys contractau (negodi a thempledi); cyflog (gan gynnwys opsiynau trydydd parti, a phennu cyfraddau safonol mewn gŵyl); cymorth iechyd meddwl a lles; cynyddu cyfleoedd gwaith a mwy.
Meddai John Rostron, Prif Swyddog Gweithredol AIF: “Mae hon yn rhaglen wirioneddol gyffrous a fydd yn dod â charfan eang o wyliau at ei gilydd a hefyd grŵp yr un mor fawr o rai sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain yng ngwyliau Cymru. Bydd y ddau grŵp yn cael mynediad i amrywiaeth eang o hyfforddiant, adnoddau a chymorth a hynny’n rhad ac am ddim, yn ogystal â dod at ei gilydd i’n helpu i greu mathau eraill o gymorth pwrpasol ar gyfer eu hanghenion. Rwy’n teimlo’n hynod o gyffrous fy mod yn peilota’r math hwn o gynnig i weithwyr llawrydd y gwyliau. Er eu bod weithiau’n cael cefnogaeth cyflogwyr arferol, asiantau neu undebau llafur, yn aml ddigon maent yn llithro drwy’r rhwyd wrth iddynt symud rhwng gwahanol gwmnïau neu’n neidio rhwng gwahanol sectorau i geisio sicrhau gwaith. Mae gweithwyr llawrydd yn hanfodol i rwydwaith y gwyliau, ac felly bydd gallu darparu hyfforddiant newydd iddynt i’w cefnogi yn ystod eu cyfnod yn y sector yn hynod ddiddorol.”
Meddai Suzi Green, Rheolwr Teithiau a sylfaenydd The Back Lounge, sy’n cefnogi ac yn cynghori ar y rhaglen: “Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o fenter AIF i ganfod a chefnogi gweithwyr llawrydd gwyliau a digwyddiadau Cymru. Wrth ystyried fy mhrofiad i yn bersonol – yn gweithio ar y safle, yn rheoli teithiau perfformwyr, mynychu gwyliau fel cefnogwr brwd, a hefyd yn eirioli drwy grŵp cymorth gan gymheiriaid y Back Lounge – rwy’n dra ymwybodol pa mor unig y gall gweithio ar eich liwt eich hun fod yn y diwydiant hwn a chymaint o her ydyw. O ystyried ein hinsawdd economaidd a’r ffaith fod llawer o wyliau yn wynebu ansicrwydd, rwy’n hyderus y bydd y fenter hon yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o rai o’r problemau hyn ac yn darparu cymorth y gallwn ei drosglwyddo i’r dyfodol.”
Gall Gwyliau yng Nghymru a Gweithwyr Llawrydd yng Nghymru sy’n gweithio’n rhannol neu’n gyfan gwbl mewn gwyliau (neu sy’n dymuno gweithio mewn gwyliau) gofrestru eu diddordeb yn y rhaglen sgiliau ddi-dâl hon YMA.